
1. Dod â gwangod yn ôl
Bydd y pysgodyn prin pwysig hwn yn cyrraedd ei hen gynefinoedd dŵr croyw a bydd gan bob pysgodyn fynediad gwell i gyrraedd rhannau uchaf Afon Hafren.
Bydd y pysgodyn prin pwysig hwn yn cyrraedd ei hen gynefinoedd dŵr croyw a bydd gan bob pysgodyn fynediad gwell i gyrraedd rhannau uchaf Afon Hafren.
Bydd mwy o bobl, ac amrywiaeth ehangach o bobl, yn gofalu am Afon Hafren, yn ymweld â hi ac yn ei mwynhau, gan ei gwneud yn lle bywiog a chyffrous i fod ynddo.
Bydd Afon Hafren yn dod yn llwybr diddorol at ddysgu sy’n cyfoethogi bywydau pobl.
Gyda’n gilydd byddwn yn darganfod, yn rhannu ac yn dathlu straeon Afon Hafren, ac yn creu gwaddol anhygoel ar gyfer y dyfodol.
Mae ein prif gyllidwyr – rhaglen LIFE yr UE a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – wedi cymeradwyo amcanion y prosiect a ddangosir isod.
Erbyn 2017, mae gwaith monitro hirdymor wedi’i sefydlu i asesu poblogaethau gwangod yn effeithiol a chysylltedd yn Afonydd Hafren a Thefeidiad sy’n gysylltiedig ag ACA Aber Afon Hafren. – Mae’r gwaith monitro yn dwyn sylw at lwyddiant y prosiect â data o bwyntiau monitro o amgylch y strwythurau ac i fyny’r afon ohonynt, ar bresenoldeb oedolion, a llwyddiant silio yn rhannau canol Afon Hafren a rhannau isaf Afon Tefeidiad.
Erbyn 2019, mae mynediad ymarfer gorau i bysgod yn cael ei ddarparu ar gyfer gwangod mewn dau strwythur a wnaed gan ddyn ar Afon Tefeidiad gan agor 63km o gynefin silio hanesyddol, ni ellir ei gyrraedd ar hyn o bryd, sy’n gysylltiedig ag ACA Aber Afon Hafren.
Erbyn 2020, mae mynediad ymarfer gorau i bysgod yn cael ei ddarparu ar gyfer gwangod mewn pump strwythur a wnaed gan ddyn ar Afon Hafren gan agor 190km o gynefin silio a magu hanesyddol, ni ellir ei gyrraedd ar hyn o bryd, sy’n gysylltiedig ag Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Aber Afon Hafren.
Erbyn 2021, mae gwangod yn bresennol ac wedi’u diogelu’n addas uwchben Cored Lincomb ar Afon Hafren a Chored Knightsford ar Afon Tefeidiad.
Erbyn 2021, mae cyfnewid ymarfer gorau trawsgenedlaethol yn effeithiol wedi’i sefydlu o ran poblogaethau gwangod ar draws eu hystod yn Ewrop. Mae camau gweithredu’r prosiect yn arwain at drosglwyddo camau gweithredu ? i gychwyn prosiectau tebyg ar draws bio-ranbarthau Môr yr Iwerydd, Môr y Canoldir, Cyfandirol a Gogleddol.
Erbyn 2021, mae cymunedau lleol yn deall gwerth biolegol, a chymdeithasol ac economaidd posibl, gwangod, yr afon a’r ACA, o ran ei bwysigrwydd hanesyddol a phresennol, trwy gyfres o ddigwyddiadau a chamau gweithredu lledaenu.
Bydd mwy na 8m o bobl yn cymryd rhan yn ein prosiect. Bydd ein cynllun ymgysylltu â’r gymuned yn cyflawni’r elfennau allweddol canlynol:
Trosi gweithdai Gradd II afraid yn Ynys Diglis yn gyfleuster dysgu (gan gynnwys ffilm gwe-gamera o bysgod yn mudo)
Rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau ac addysg ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
Rhaglen ddehongli lle y gall pobl ddysgu mwy am dreftadaeth naturiol a chymdeithasol Afon Hafren
Rhaglen wirfoddoli
Ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Prentisiaethau Hyfforddeion Afon