Ein Partneriaid

Glandŵr Cymru (Canal & River Trust in Wales)
Mae Glandŵr Cymru a’r Canal & River Trust yn gofalu am 2,000 milltir o gamlesi ac afonydd ledled Lloegr a Chymru, ac yn dod â bywyd iddynt. Credwn fod gan ddyfrffyrdd y pŵer i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac y gall treulio amser ger dŵr wneud pob un ohonom yn iachach ac yn hapusach. Trwy ddod â chymunedau at ei gilydd i wneud gwahaniaeth i’w dyfrffordd leol, rydym yn creu lleoedd a mannau y gall pawb eu defnyddio a’u mwynhau, bob dydd. @CanalRiverTrust @CRTWalesandSW

Ymddiriedolaeth Afonydd yr Hafren
Elusen amgylcheddol annibynnol yw Ymddiriedolaeth Afonydd yr Hafren a sefydlwyd i ddiogelu, amddiffyn, datblygu a gwella’r afonydd, nentydd, cyrsiau dŵr a chyrff dŵr yn nalgylch Afon Hafren, a hybu addysg y cyhoedd wrth reoli dŵr a’r amgylchedd ehangach. Ein gweledigaeth yw cael tirweddau byw, gweithredol sy’n darparu cyflogaeth, bwyd ac amwynderau heb effeithio ar afonydd a bioamrywiaeth, a heb yr angen am reoleiddio a goruchwylio trwm. @SevernRivers

Asiantaeth yr Amgylchedd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwarchod ac yn gwella’r amgylchedd ac yn ei wneud yn lle gwell ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Rydym yn lleihau’r risg i bobl ac eiddo o lifogydd; yn sicrhau bod digon o ddŵr ar gyfer pobl a bywyd gwyllt; yn gwarchod a gwella ansawdd aer, tir a dŵr ac yn cymhwyso’r safonau amgylcheddol y gall diwydiant weithredu o’u mewn. @EnvAgencyMids @EnvAgency

Natural England
Natural England yw cynghorydd y llywodraeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn Lloegr, sy’n helpu i ddiogelu treftadaeth a thirweddau naturiol Lloegr i bobl eu mwynhau ac ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu. @NaturalEngland