Ein Hafon

Oeddech chi’n gwybod mai Afon Hafren yw afon hiraf y DU?

Gan ddechrau fel nant sy’n llifo o fawndir ucheldirol ym Mhumlumon ym Mynyddoedd Cambria, mae’n llifo 220 milltir o Bowys yng Nghymru i mewn i Loegr ac yn troelli ar draws Swydd Amwythig, Swydd Gaerwrangon, a Swydd Gaerloyw i Aber Afon Hafren llydan ac yn olaf allan i’r môr ym Môr Hafren.

O’i tharddle i’r môr, mae Afon Hafren yn cerfio trwy amrywiaeth enfawr o dirweddau dramatig, â chyfoeth o drefi hanesyddol a lleoedd o ddiddordeb ar hyd y ffordd. O gerdded a beicio; i gychod ar yr afon; neu ymweld ag eglwysi cadeiriol hanesyddol, trefi prysur neu lochesau bywyd gwyllt: ni fyddwch chi byth yn brin o rywbeth i’w weld na’i wneud ar hyd Afon Hafren.

Pa bynnag atyniadau a gweithgareddau a ddewiswch, peidiwch ag anghofio i oedi a mwynhau ennyd dawel, a myfyrio ar yr holl storïau cudd a’r bywyd gwyllt anhygoel, sy’n llifo heibio i chi.

Bu Afon Hafren yn briffordd i gysylltu pobl a’u nwyddau, ac yn rhwystr i'w hamddiffyn. Y mae’n lle i fwynhau heddwch a llonyddwch mewn natur, a hefyd i fyfyrio ar ei effaith, gan siapio tirweddau a bywoliaeth.

Get in touch

By using this website you agree to accept our Privacy Policy and Terms & Conditions