Datgloi’r Hafren ar gyfer gwangod

Bydd ein prosiect yn adfer 158 milltir o afon er mwyn i wangod gyrraedd eu mannau silio naturiol unwaith eto.

Gwyliwch ein ffilm am wangod

Arferai cannoedd o filoedd o wangod fudo i fyny Afon Hafren bob gwanwyn ond roedd coredau a adeiladwyd yn y 1840au yn rhwystro’r mudo blynyddol hwn. Dangosodd ein harolygon yn 2017 fod poblogaeth weddilliol fach o wangod yn Afon Hafren yn cyrraedd cyn belled â Chaerwrangon yn unig. Ond, erbyn i’n prosiect gael ei gwblhau, ar ôl bwlch o oddeutu 170 o flynyddoedd, bydd y gwangod hyn o’r diwedd yn mynd i fyny’r afon unwaith eto.

Mae coredau’n cynrychioli rhwystr ffisegol yn yr afon i wangod. Yn wahanol i eog, nid yw gwangod wedi esblygu i neidio dros greigiau a chlogfeini ac i fyny rhaeadrau bach, ac mae coredau’n rhwystro eu llwybr i fyny’r afon. Er bod y gwangod yn gallu mynd dros ricyn yn y gored fach yn Upper Lode yn Tewkesbury, yn enwedig yn ystod llanw uchel, mae coredau mwy sylweddol ymhellach i fyny’r afon yn rhwystrau anorchfygol i’r gwangod.

Defnyddir llwybrau i bysgod pan fydd rhwystrau naturiol neu ddynol fel argaeau, coredau neu geuffosydd yn atal pysgod rhag mudo neu'n ymyrryd â hyn.

Mae llwybrau i bysgod yn strwythurau a wnaed gan ddyn yn yr afon, wedi’u dylunio i hwyluso pysgod a bywyd gwyllt arall yr afon wrth iddynt symud i fyny ac i lawr afonydd. Mae llawer o lwybrau i bysgod yn cael eu hadeiladu ar ffurf ysgol ar hyd y lan heibio i rwystr mawr, sy’n torri un rhwystr mawr i lawr yn gyfres o risiau bach neu ‘ffyn’ y mae’n bosibl i’r pysgod nofio a neidio rhyngddynt.

Mae yna lwybrau i eog sydd eisoes yn bodoli  ar y rhan fwyaf o’r coredau ar Afon Hafren, ond nid yw’r rhain yn agored i wangod yn gyffredinol. Mae eogiaid yn nofwyr cryf ac maent wedi esblygu’r greddfau a’u gallu corfforol i oresgyn rhwystrau, ond nid yw gwangod yn hoffi dŵr sy’n rhy aflonydd.  Maent yn hawdd eu drysu gan lifau cymhleth, a chredir bod y swigod mewn dŵr aflonydd yn eu hatal rhag gweld ei gilydd ac felly’n lleihau eu cymhelliant i nofio ymhellach.

Mae’n bwysig iawn bod y gwangod yn cyrraedd rhannau uchaf Afon Hafren. Yr ardaloedd hyn sy’n darparu’r cynefinoedd cywir ar gyfer silio. Mae’n well gan wangod silio ar welyau graean lle mae’r dŵr yn ddelfrydol oddeutu 1m i 1.5 metr o ddyfnder ac rydych yn debygol o weld crychdonnau ysgafn ar wyneb yr afon. Dim ond â mynediad at fannau silio addas, â’r amodau y mae gwangod wedi addasu’n naturiol ar eu cyfer, y gallwn obeithio sicrhau poblogaeth iach ar Afon Hafren.

Yn ogystal â hynny, ar hyn o bryd mae cael eu cyfyngu’n ffisegol i rannau isaf Afon Hafren, yn gorfodi dwy rywogaeth wahanol – herlod a gwanod – i fod yn annaturiol o agos Gall caniatáu iddynt gyrraedd eu mannau silio naturiol olygu y bydd y 2 rywogaeth hyn yn gallu manteisio’n well ar eu harbenigedd eu hunain a lleihau’r lefelau uchel o groesiad sy’n ymddangos ar Afon Hafren ar hyn o bryd.

Bydd adfer afon ar y raddfa hon hwn o fudd sylweddol i fywyd gwyllt arall. Bydd caniatáu i rywogaethau fel gwangod ail-gytrefu rhannau uchaf Afon Hafren yn cael effaith ehangach i adfywio ecosystem yr afon a chynyddu bioamrywiaeth.

Er enghraifft, pan fo gwangod yn gallu silio yn yr afon y tu hwnt i Gaerwrangon a hefyd mwy o unigolion o rywogaethau pysgod eraill, bydd eu hwyau’n darparu egni a maetholion ar gyfer poblogaethau pryfed iachach, a fydd yna’n darparu mwy o fwyd i anifeiliaid yn uwch i fyny’r gadwyn fwyd. A mwy o silod mân gwangod – sef y pysgodyn bach, ifanc ar ôl iddynt ddeor o’u hwyau – yn darparu bwyd ar gyfer rhywogaethau eraill o bysgod, adar a mamaliaid.

Mae amrywiaeth o wahanol ddatrysiadau llwybrau i bysgod wedi’u cynllunio i gydweddu â’r amodau penodol ar bob rhwystr yn yr afon.

Ffocws ar: Cored Diglis
Dyma’r rhwystr mawr cyntaf y mae Gwangod yn ei gyrraedd ar Afon Hafren sy’n eu hatal rhag mynd ymhellach i fyny’r afon.  Yn Diglis, rydym yn adeiladu llwybr i bysgod sy’n agoriad fertigol dwfn.  Dyma goridor dwfn a adeiladwyd ar hyd lan yr afon wrth ochr y gored.  Caiff ei rannu’n siambrau gwahanol y mae’r dŵr yn llifo drwyddynt trwy slotiau cul.  Gall pysgod nofio i fyny’r afon trwy’r ‘ysgol’ hon o siambrau heb orfod neidio dros unrhyw rwystrau.  Gall y gwangod orffwys am ychydig ym mhob siambr lle ceir ardal dawelach o ddŵr. Mae llwybrau i bysgod ar ffurf slotiau fertigol wedi’u cynllunio i ymdopi ag amrywiad tymhorol mewn lefelau dŵr ar bob ochr i’r rhwystr.

Get in touch

By using this website you agree to accept our Privacy Policy and Terms & Conditions